Llinell AmserEnglish

1914

27 Hydref: Cafodd Dylan Marlais Thomas ei eni.
Mwy

1925

Dechreuodd Dylan yn Ysgol Ramadeg Abertawe.
Mwy

1926

Enillodd Dylan y wobr gyntaf am redeg milltir yn yr ysgol.
Mwy

1931

Gadawodd Dylan Ysgol Ramadeg Abertawe i fynd yn ohebydd ar y papur newydd South Wales Daily Post.
Mwy

1932

Ymunodd Dylan â chwmni theatr 'Swansea Little Theatr Company'. Daeth yn ffrindiau gyda chriw o ddynion talentog o Abertawe a oedd yn cwrdd yng nghaffi'r Kardomah.
Mwy

1933

Awst: Aeth Dylan i Lundain am y tro cyntaf.
Mwy

1934

23 Chwefror: Aeth Dylan i Lundain am yr ail dro gan aros gyda Pamela Hansford Johnson

Tachwedd: Symudodd Dylan i Lundain gyda ffrindiau o Abertawe, y ddau arlunydd Alfred Janes a Mervyn Levy.

18 Rhagfyr: Cyhoeddwyd 18 Poems, y llyfr cyntaf o gerddi Dylan.
Mwy

1936

Ebrill: Cwrddodd Dylan â Caitlin Macnamara. Roedd hi'n gariad i Augustus John (yr arlunydd) ar y pryd.

Gorffennaf: Cyfarfu Dylan a Caitlin eto yn Nhalacharn. Bu Dylan ac Augustus yn ymladd dros Caitlin.

10 Medi Cyhoeddodd Dylan Thomas ei ail gasgliad o gerddi - Twenty Five Poems.
Mwy

1937

21 Ebrill: Gwnaeth Dylan ei ddarllediad radio cyntaf Dylan 'Life and the Modern Poet'.

11 Gorffennaf: Priodwyd Dylan a Caitlin.
Mwy

1938

Mai: Symudodd Dylan a Caitlin i fwthyn Eros yn Nhalacharn.

Awst: Symudon nhw o Eros i Sea View, Talacharn.

Tachwedd: Arhoson nhw gyda mam Caitlin yn Hampshire gan fod Caitlin yn disgwyl eu plentyn cyntaf.
Mwy

1939

30 Ionawr: Cafodd eu plentyn cyntaf - Llewelyn Edouard Thomas - ei eni.

24 Awst: Cyhoeddwyd The Map of Love.

20 Rhagfyr: Cyhoeddwyd The World I Breathe - casgliad o gerddi a storïau byrion, yn UDA.

Roedden nhw'n dal i aros gyda theulu Caitlin yn Hampshire.
Mwy

1940

Mawrth / Ebrill: Symudodd Dylan a'i deulu yn ôl i Sea View, Talacharn.

4 Ebrill: Cyhoeddwyd Portrait of the Artist as a Young Dog.

Mai: Methodd Dylan archwiliad meddygol y Fyddin.

Roedd ganddo ddyledion yn Nhalacharn a symudodd i fyw at ei rieni yn Llandeilo Ferwallt.

Mehefin/Awst: Arhoson nhw gyda John Davenport a'i wraig, yn Swydd Gaerloyw.

Gorffennaf: Gadawodd Dylan a Caitlin Dalacharn a mynd i Lundain.

Medi: Dechreuodd Dylan weithio i Strand Films fel sgriptiwr.

Rhagfyr: Dychwelon nhw i aros gyda rhieni Dylan yn Llandeilo Ferwallt tan fis Ebrill.

Mwy

1941

19 - 21 Chwefror: Bu'r Luftwaffe yn bomio Abertawe'n barhaus.

Mai/Gorffennaf: Arhosodd Dylan a Caitlin yn Castle House yn Nhalacharn gyda Richard a Frances Hughes.

Awst: Symudodd Dylan a Caitlin yn ôl i Lundain, gan adael Llewelyn eu mab gyda theulu Caitlin.
Mwy

1942

Gorffennaf: Cymerodd Dylan and Caitlin stiwdio un ystafell wely yn Llundain fu'n gartref iddyn nhw am sawl blwyddyn.

1943

Dechreuodd gwaith parhaus Dylan fel darlledwr.

Chwefror: Cyhoeddwyd New Poems yn UDA.

3 Mawrth: Cafodd Aeronwy Bryn Thomas, ail blentyn Dylan a Caitlin, ei geni.
Mwy

1944

Ebrill/Mehefin: Oherwydd y rhyfel - bu Dylan a Caitlin yn byw am dipyn yng Ngorllewin Sussex ac yna yn Swydd Buckingham.

Gorffennaf/Awst: Arhoson nhw gyda rhieni Dylan, oedd wedi symud erbyn hyn i Blaen Cwm, Llangain, Sir Gaerfyrddin.

Medi: Symudodd Dylan a'r teulu i Majoda, Cei Newydd, lle dechreuodd Dylan weithio ar Under Milk Wood.

Mwy

1945

Awst/Medi: Arhoson nhw ym Mlaencwm gyda rhieni Dylan.

Rhagfyr/Mawrth 1947: Treuliodd Dylan a Caitlin y Nadolig gyda AJP Taylor yr hanesydd a Margaret ei wraig yn Rhydychen.

Rhwng 1945 a 1949 bu Dylan naill ai'n ysgrifennu neu'n cymryd rhan mewn dros gant o raglenni radio gyda'r BBC.
Mwy

1946

Cyhoeddwyd Deaths and Entrances.

Awst: Treuliodd Dylan a Caitlin bedwar diwrnod yng Ngweriniaeth Iwerddon, gyda'u ffrindiau Bill a Helen McAlpine.

8 Tachwedd: Cyhoeddwyd Selected Writings yn UDA.
Mwy

1947

26 Mawrth: Rhoddodd y Gymdeithas Awduron Ysgoloriaeth i Dylan gan argymell y dylai ymweld â'r Eidal.

Ebrill/Awst: Aeth Dylan a'i deulu i'r Eidal, lle ysgrifennodd Dylan 'In Country Sleep'.

15 Mehefin: Darlledodd y BBC 'Return Journey'.

Mehefin: Prynodd Margaret Taylor y Manor House yn Rhydychen, i'r teulu Thomas.
Mwy

1948

Mawrth/Ebrill: Ymwelodd Dylan â Thalacharn, gan obeithio dod o hyd i le i'r teulu fyw.

Ebrill: Daeth rhieni Dylan i aros gyda nhw yn South Leigh.

Haf: Dechreuodd Dylan weithio ar dair sgript ffilm i Gainsborough Films.

Hydref: Ymwelodd Margaret Taylor â Thalacharn a phrynu'r 'Boat House' i Dylan a'i deulu.
Mwy

1949

4 Mawrth: Ymwelodd Dylan â Phrag.

Mai: Symudodd Dylan a'r teulu i'r Boat House yn Nhalacharn.

24 Gorffennaf: Ganwyd Colm Garan Hart Thomas.
Mwy

1950

20 Chwefror: Hedfanodd Dylan i Efrog Newydd ar ei daith gyntaf yn UDA.

23 Chwefror: Darllenodd Dylan yn gyhoeddus am y tro cyntaf yn UDA yn Efrog Newydd.

1 Mehefin: Dychwelodd Dylan i Brydain.

Medi: Darganfyddodd Caitlin fod cariad o America gan Dylan.
Mwy

1951

Ionawr/Chwefror: Ymwelodd Dylan â Phersia i ysgrifennu sgript ffilmiau.

Ysgrifennodd Caitlin ato, gan awgrymu bod y briodas ar ben.

Chwefror: Cymododd Dylan a Caitlin.

Gorffennaf: Arhosodd John Malcolm Brinnin, asiant Dylan yn America, a'r ffotograffydd Rollie McKenna gyda Dylan a Caitlin yn Nhalacharn.

Haf/Hydref: Ysgrifennodd Dylan 'Lament”, 'Poem on His Birthday', 'Do not go gentle into that good night', 'Prologue' a hanner Under Milk Wood.

Prynodd Margaret Taylor gartref yn Llundain i Dylan a'i deulu.
Mwy

1952

20 Ionawr: Gadawodd Dylan a Caitlin am UDA.

10 Tachwedd: Cyhoeddwyd Collected Poems 1934-1952.

16 Rhagfyr: Bu farw DJ Thomas, tad Dylan.
Mwy

1953

16 Ebrill: Bu farw Nancy, chwaer Dylan, o ganser.

21 Ebrill: Gadawodd Dylan am Efrog Newydd ar ei drydedd daith yn UDA.

3 Mehefin: Aeth Dylan yn ôl i Lundain.

19 Hydref: Gadawodd Dylan am Efrog Newydd i ddechrau ei bedwaredd daith, yn UDA.

29 Hydref: Gwnaeth Dylan ei ymddangosiad cyhoeddus olaf.

5 Tachwedd: Cwympodd Dylan i'r llawr yng Ngwesty Chelsea, Efrog Newydd.

9 Tachwedd: Bu farw Dylan yn Ysbyty St Vincent's.

25 Tachwedd: Angladd Dylan yn Nhalacharn.
Mwy

1954

25 Ionawr: Darlledodd y BBC Under Milk Wood'.

1958

Awst: Bu farw Florence, mam Dylan.

1982

Dadorchuddiwyd plac i Dylan yn Abaty Westminster.

1994

Bu farw Caitlin ac fe'i claddwyd gyda Dylan.