Arweiniad ar yr Adnoddau Dysgu | Guidance on the Teaching Resource

1. Y Nod

Mae'r adnodd wedi ei ddatblygu ar gyfer Cyfnod Allweddol 2, 3 a 4 a bydd yn:

  • cynorthwyo ysgolion sydd am wybod mwy am Dylan a'i waith gan gynnwys ei gefndir a'r dylanwadau arno, ei arddull a'i gynnwys a'r prif negeseuon yr oedd yn ceisio eu cyfleu;
  • sbarduno dysgwyr i fwynhau gwaith Dylan, gan eu helpu i ymateb i'r gwaith ac ystyried yr hyn mae'n ei olygu i ni yn yr 21ain ganrif;
  • cefnogi datblygu sgiliau siarad a gwrando, darllen ac ysgrifennu yng nghyd-destun ystyrlon a chyfoethog; a
  • darparu adnodd a fydd yn waddol y tu hwnt i ddathliadau'r canmlwyddiant, ac a fydd ar gael i'w defnyddio dro ar ôl tro gan godi ymwybyddiaeth o waith Dylan.

Nodyn i’r athrawon: mae’r nodiadau dysgu yn cynnwys cyfeiriadau at y FfLlRh a'r Rhaglenni Astudio Diwygiedig ar gyfer 2015 (gwefan Dysgu Cymru).

2. Crynodeb ac Awgrymiadau ar sut i'w Defnyddio:

  • Mae gan bob cyfnod allweddol ddeunyddiau penodol; mae hyn yn cynnwys cynlluniau gwersi, cyflwyniadau a thaflenni adnoddau ar gyfer dysgwyr.
  • Mae'r cynlluniau gwersi wedi cael eu hanelu i fod yn addas i ystod o oedran yn y cyfnod allweddol dan sylw, gyda CA2 wedi ei anelu at Flynyddoedd 3 i 6, CA3 at Flynyddoedd 7 i 9 a CA4 at Flynyddoedd 10 ac 11.
  • Mae'n bosib defnyddio gwaith o Gyfnod Allweddol gwahanol hefyd e.e. gellid defnyddio gwaith CA3 ar gyfer disgybl abl a thalentog yn CA2.
  • Mae'r cynlluniau gwersi wedi cael eu llunio fel eu bod yn cynnig man cychwyn i'r athrawon ac felly bydd yn bosib eu newid neu'u haddasu i fod yn haws neu'n anos i gyd-fynd ag anghenion y dosbarth neu'r ysgol.
  • Mae'r cynlluniau gwersi wedi cael eu llunio i'w defnyddio'n hyblyg, dros fwy nag un wers ar adegau, yn ôl gofynion yr athro/athrawes.
  • Mae'r cynlluniau gwersi wedi cael eu llunio i gynnwys arferion da sy'n cynnig her feddyliol i ddisgyblion, ac sy'n rhoi cyd-destun cadarn o ran datblygu sgiliau siarad a gwrando, darllen ac ysgrifennu.
  • Nodir y sgiliau perthnasol o'r Fframwaith Llythrennedd Cenedlaethol yn ogystal ag asesiadau dan reolaeth ar gyfer CA4.
  • Mae cysylltiadau â gwefannau perthnasol wedi eu cynnwys, gan gyfeirio at wybodaeth a gweithgareddau pellach sy'n berthnasol i Dylan Thomas a chymorth llythrennedd pellach.
  • Cynhwysir esiamplau o wasanaethau ysgolion ar gyfer CA2, 3 a 4. Mae'r rhain yn edrych ar rai o brif themâu gwaith creadigol Dylan gan gynnig cyfle i feddwl ac ystyried yn ystod addoliad ar y cyd.
  • Mae'r deunyddiau wedi cael eu creu yn Gymraeg ac yn Saesneg er mwyn cynorthwyo ysgolion i'w defnyddio er mwyn cynnal datblygiad sgiliau llythrennedd deuol.

3. Cefnogi Cyrhaeddiad Dysgwyr ac Arfer Da mewn Llythrennedd Cymraeg a Saesneg

Bwriad yr adnoddau yw denu'r dysgwyr i werthfawrogi un o ffigurau llenyddol enwocaf Cymru, gan gefnogi gofynion y Cwricwlwm Cymreig o fewn y Cwricwlwm Cenedlaethol. Mae'r cynlluniau gwersi wedi cael eu hadolygu a'u treialu gan athrawon a dysgwyr ac wedi eu cynllunio i hyrwyddo'r arferion gorau wrth ddatblygu sgiliau llythrennedd y dysgwyr. Mae'r rhain yn cynnwys cyfle i'r dysgwyr:

  • ymateb i ystod eang o ddeunyddiau, yn weledol, yn destun ac yn rhai sain;
  • datblygu sgiliau siarad a gwrando drwy ddeunyddiau amrywiol sy'n herio'r meddwl;
  • ysgrifennu i ymateb i dasgau darllen a hyrwyddo darllen fel modd o annog ysgrifennu;
  • trefnu eu meddyliau drwy ddefnyddio deunyddiau graffeg, mapiau meddwl; ac
  • ymchwilio i ffeithiau a gwybodaeth allweddol a fydd yn cefnogi llafaredd ac yn sicrhau cynnwys ar gyfer ysgrifennu.

Dylan Thomas a'r 21ain Ganrif

Bydd ap ar gael i'w lawrlwytho ar gyfer dyfeisiadau symudol fel adnodd adolygu. Mae'r adnodd wedi ei seilio ar destun (CA4) ac yn cynnig cyfle i wrando ar y testun yn cael ei berfformio, gyda nodiadau addas a chynnwys fideo. Y bwriad yw i'r cyfan fod yn adnodd adolygu ar gyfer y defnyddiwr.

Terminoleg - yr adnodd

Yn bennaf, defnyddir terminoleg sy'n cyd-fynd â'r Cwricwlwm Cenedlaethol o ran pynciau Cymraeg a Saesneg. Mae'r isod yn esiampl o'r derminoleg a ddefnyddir yn gyson yn yr adnodd:

Cynllun Gwers

Mae'r Cynllun Gwers yn fan cychwyn sy'n awgrymu'r camau ar gyfer gwella sgiliau llythrennedd gan ddefnyddio'r adnoddau cysylltiedig ar Dylan Thomas.

Adnoddau i'r Athro

Deunyddiau y gellir eu defnyddio i gefnogi'r athro/athrawes a'r cynllun gwers, e.e. nodiadau cefndir, cyflwyniadau.

Adnodd i'r Dysgwyr

Deunyddiau atodol y gellir eu defnyddio i ddilyn ymlaen o wersi a chyflwyniadau, gan gynnwys trefnyddion graffeg, fframweithiau ac adnoddau i hybu ymatebion ysgrifenedig y disgyblion.

Testun(au)

Mae hyn yn cyfeirio at esiamplau ysgrifenedig, llafar neu weledol o waith yr awdur.

Trefn a awgymir

Mae'r drefn a awgrymir yn enghraifft o'r camau y gellir eu dilyn yn ystod gwers. Bwriadwyd y camau fel bod modd eu dilyn naill ai'n llawn neu'n rhannol, a gellir eu haddasu i gyd-fynd ag anghenion grŵp neu flwyddyn unigol.

1. The Aims

The resource has been developed for Key stages 2, 3 and 4 and will:

  • support schools with getting to know Dylan and his writing including his background and influences, his style and substance and the key messages he sought to communicate;
  • encourage pupils to connect with Dylan's work, enabling them to respond to it and reflect upon what it means to us in the 21st century;
  • support the development of speaking and listening, reading and writing skills within a meaningful and rich context; and
  • provide a resource that will be a legacy beyond the centenary, that can be used over time to celebrate and raise awareness of Dylan's work.

Note to teachers: The teaching notes within this website include references to the LNF and the New Programme of Study for 2015 (Learning Wales web-site)

2. An Outline and Suggested Use

  • Each key stage has its own set of materials; this includes detailed lesson plans, powerpoints and pupil resource sheets.
  • Lesson plans are pitched to be accessible for multiple years within a key stage, with KS2 aimed at Years 3 to 6, KS3 aimed are Years 7 to 9 and KS4 aimed at Years 10 and 11.
  • It's also possible to use resources from another key stage e.g. KS3 resources could be used for an able and talented KS2 pupil.
  • Lesson plans have been designed so that teachers can use them as a starting point that can be modified 'up' or 'down' depending on the school and the cohort.
  • The lesson plans have been designed to be used flexibly, with some able to span over more than session, as decided on by the teacher.
  • The lesson plans have been designed to include elements of good practice that challenges pupils' thinking and provides a sound context for the development of speaking and listening, reading and writing skills.
  • Skills from the National Literacy Framework have also been identified as well as links with controlled assessment at KS4.
  • Links to relevant websites have been included, these highlight where extra information and activities can be found relating to both Dylan Thomas as well as further literacy support.
  • Exemplar assemblies for KS2, 3 and 4 have been included that explore key themes within Dylan's writing and opportunities for reflection during collective worship.
  • The materials have been created in Welsh and English to assist schools with using them to support the development of dual literacy skills.

3. Supporting Pupil Attainment and Good Practice in English and Literacy

The resource aims to enhance pupil engagement with a famous Welsh writer, supporting Y Curriculum Cymreig within the National Curriculum. The lesson plans have been scrutinised and trialled by both teachers and pupils and are designed to support best practice in provision for the development of pupils' literacy skills. This includes opportunities for pupils to:

  • respond to a wide range of materials , both visual, text based and audio;
  • develop speaking and listening skills through rich subject matter that challenges thinking;
  • write in response to reading and read as build up to writing;
  • organise their thinking using graphic organisers and mind maps; and
  • research key facts and information that will support their speaking and provide content for writing.

Dylan Thomas and the 21st Century

There is an app available for you to download to your mobile device(s) as a revision tool. This is text based (KS4) and provides an opportunity to listen to the text being performed, with suitable notation and video content, all designed to provide a revision resource for the user.

Resource - Terminology

Where possible, terminology has been used that reflects the current National Curriculum subject orders for English. The following are an example of terminology that is consistently used within the resource:

Lesson Plan

Lesson plans are a starting point that outline steps that can be taken to enhance literacy skills using the associated Dylan Thomas' materials.

Teacher Resource

Materials that can be used to support the teacher and the planned lesson e.g. background notes, powerpoints.

Pupil resource

Materials that can be used to follow up on lesson starters and powerpoints, including graphic organisers, frames and prompts for pupils' written responses.

Text(s)

This refers to written, spoken or visual examples of an author's writing.

Suggested Procedure

The suggested procedure is an example of the steps that can be followed over the course of a lesson. The steps are intended to be able to be followed fully or partially, and can be amended to suit individual year groups and classes.

Lawrlwythwch yr apiau fel cymorth i'ch astudiaethau / Download the app's to help with your studies

Dylan Thomas Apps
iPad