Cyfnod Allweddol 2 - Dan y Wenallt

Llais

Mae hi'n nos o Wanwyn mewn pentre bach
heb na lleuad na seren i oleuo'r ffurfafen,
nac untroed i oedi'n y strydoedd;
ac mae gallt wargrwm y cwningod a'r cariadon
fel ar herc anweledig i lawr at y môr pygddu,
dudew fel y fagddu,
lle mae'r cychod pysgota'n hen aflonyddu.
Mae'r holl dai yma'n ddall fel gwahaddod,
er fe wêl y wahadden yn burion
heno'n ei glynnoedd cul clos,
neu'n ddall fel 'rhen Gapten fan draw'n cyfeillachu
â'r pwmp a'r cloc a'r Neuadd weddw a'r siopau'n eu galar.
Ac fe gaewyd llen pob llygad tan amrannau trwm y nos.

Ust, mae'r plantos yn cysgu,
a ffermwr pensiynwr masnachwr pysgotwr posman,
crydd sgwlyn meddwyn tafarnwr teiliwr pregethwr plisman,
a'r fenyw ffansi, a'r fenyw deidi.
Hen ferchetach mewn gwelyau moethus
yn edrych modrwyau, yn dewis trŵso,
ac yn llithro'n llawen hyd eil organyddol y gelltydd
a mil o fagïod yn forynion iddynt,
a'r bechgynnach yn breuddwydio'n gellweirus
wrth farchogaeth y paith ar fwng y nos
neu fordwyo brig eithaf y don.
Ceffylau yng nghwsg yn y caeau fel delwau dur,
a gwartheg yn cil-gysgu'n y beudy a chŵn mewn buarthau llaith
a'r cathod hwythau'n cael napyn mewn cornel di-grwndi,
neu'n sleifio un llinyn o do i do fel deryn mewn cwmwl.

Gellwch glywed y gwlith yn diferu
A chlywed y pentre'n anadlu.
A'ch llygaid chwithau'n unig all weld
y pentre pygddu'n cysgu'n drwm.

* Dan y Wenallt / Under Milk Wood
Cyfieithiad T.James Jones, Gwasg Gomer
The definitive edition - edited by Walford Davies and Ralph Maud

Lawrlwythwch ap CA2 fel cymorth i'ch astudiaethau

KS2 App

iPhone / iPad

Apple

Angen iOS 7.0 neu ddiweddarach

Android

Android

Angen Android 4.0 neu ddiweddarach

Windows Phone

Windows Phone

Angen Windows Phone 8.1 neu ddiweddarach

iPad